|
Deiseb 1
Rhif y ddeiseb: P-06-1415
Teitl y ddeiseb: Rhoi ffordd liniaru’r M4 ger Twneli Bryn-glas yn ne Cymru ar waith.
Geiriad y ddeiseb: Byddai adeiladu’r ffordd liniaru’n helpu Cymru i ffynnu unwaith eto Byddai’n lleihau ciwiau ac amseroedd aros o amgylch ardal Bryn-glas.
Gwariwyd miliynau ar arolygon ac ar brynu tir yn orfodol, ac yna rhoddwyd stop ar y cyfan heb bleidlais gyhoeddus. Pam felly?
Mae'r cyhoedd am ddod i Gymru a'i gadael heb orfod ciwio ddwywaith y dydd, bob dydd. Mae twristiaid yn ailystyried dychwelyd i Gymru am fod twneli Bryn-glas yn draed moch.
Mae Cymru’n dibynnu ar dwristiaeth am refeniw, ond mae pawb yn mynd yn sownd ar ddarn dyddiedig o’r ffordd sydd â’r tagfeydd gwaethaf yng Nghymru.
Deiseb 2
Rhif y ddeiseb:P-06-1421
Teitl y ddeiseb:Cynnal arolwg barn cyhoeddus ar a ddylid adeiladu Ffordd Liniaru’r M4, a gweithredu’r canlyniad ar unwaith
Geiriad y ddeiseb: Mae’r tagfeydd traffig o amgylch twneli Casnewydd yn drychinebus i’r economi ac i lesiant gyrwyr a thrigolion lleol.
|
Llywodraeth Cymru yw'r awdurdod priffyrdd ar gyfer rhwydwaith cefnffyrdd a thraffyrdd Cymru ac mae'n gyfrifol am gynnal a chadw a gwella'r rhwydwaith, gan gynnwys yr M4. Mae cynigion i gynyddu capasiti ar yr M4 o amgylch Casnewydd wedi bod yn cael eu trafod ers dechrau’r 1990au.
Cynllun coridor yr M4 o amgylch Casnewydd
Yn 2014, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Coridor yr M4 o Amgylch Casnewydd – Y Cynllun a oedd yn nodi cynlluniau i adeiladu rhan newydd o draffordd, a elwir y 'Llwybr Du' neu'r 'llwybr a ffefrir'.
Ym mis Mawrth 2016, cafodd nifer sylweddol o ddogfennau eu cyhoeddi, gan nodi cam allweddol yn y broses o gynllunio a chyflawni. Hefyd, cafodd deg o arddangosfeydd cyhoeddus eu cyhoeddi, lle y gallai’r cyhoedd edrych yn fanwl ar orchmynion drafft, ar wybodaeth amgylcheddol ac ar adroddiadau a deunyddiau cysylltiedig eraill. Mae Ymchwil y Senedd wedi cyhoeddi erthygl yn flaenorol a oedd yn edrych ar hyn yn fanylach.
Yn dilyn yr arddangosfeydd cyhoeddus, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ym mis Mehefin 2016 y byddai ymchwiliad cyhoeddus yn cael ei gynnal.
Dechreuodd yr ymchwiliad ar 28 Chwefror 2017 gyda phenodi arolygydd annibynnol, a daeth i ben ym mis Ebrill 2018. Canfu adroddiad yr arolygydd:
…ceir achos cryf dros weithredu’r cynllun er mwyn lliniaru problem ddifrifol ar y rhwydwaith traffyrdd strategol… Felly, yn fy marn i, mae’r cynllun er budd y cyhoedd.
Fodd bynnag, nid oedd adroddiad yr arolygydd yn rhwymo Llywodraeth Cymru, ac ym mis Mehefin 2019 gwnaeth y cyn Brif Weinidog, Mark Drakeford AS, gyhoeddiad am ei benderfyniad i beidio â bwrw ymlaen â’r cynllun.
Yn ei lythyr penderfynu, nododd y cyn Brif Weinidog ddau brif reswm dros ei benderfyniad – costau ac effeithiau amgylcheddol y cynllun. Cyhoeddodd Ymchwil y Senedd erthygl yn archwilio hyn ar yr adeg y gwnaed y penderfyniad.
Yn 2020, awgrymodd Boris Johnson, cyn Brif Weinidog y DU, y gallai Llywodraeth y DU adeiladu’r ffordd liniaru, sy’n honiad y dadleuodd Llywodraeth Cymru yn ei erbyn, gan fod seilwaith ffyrdd a chynllunio defnydd tir yn faterion datganoledig.
Comisiwn Burns
Yn dilyn y penderfyniad i beidio â bwrw ymlaen â'r cynllun, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai comisiwn o arbenigwyr trafnidiaeth yn cael ei sefydlu â'r dasg o wneud argymhellion ar ddatrysiadau amgen i'r problemau ar yr M4 yng Nghasnewydd.
O ganlyniad, sefydlwyd Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru, dan gadeiryddiaeth yr Arglwydd Burns, a chyhoeddodd ei adroddiad gyda’i argymhellion terfynol yn 2020. Argymhellodd “rwydwaith o ddewisiadau amgen”, sy'n canolbwyntio ar drafnidiaeth gyhoeddus:
Yn 2021, sefydlwyd Uned Gyflawni Burns fel rhan o Trafnidiaeth Cymru i fwrw ymlaen â’r argymhellion.
Yr adolygiad ffyrdd
Pe bai unrhyw gynllun i adeiladu'r ffordd liniaru yn y dyfodol yn cael ei ddwyn ymlaen, byddai'n ddaristyngedig i brofion adeiladu ffyrdd Llywodraeth Cymru a sefydlwyd o ganlyniad i’w hadolygiad ffyrdd.
Ym mis Mehefin 2021, cyhoeddodd Lee Waters AS, y cyn Ddirprwy Weinidog Newid Hinsawdd y byddai panel adolygu ffyrdd yn cael ei sefydlu i adolygu buddsoddiadau ffyrdd arfaethedig Llywodraeth Cymru. Cyhoeddodd y cyn Ddirprwy Weinidog y byddai pob cynllun ffordd newydd yn cael ei atal tra bod y cynlluniau presennol yn cael eu hadolygu.
Cyhoeddodd y panel ei adroddiad terfynol ym mis Chwefror 2023. Mewn ymateb, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddatganiad polisi ffyrdd newydd sy'n pennu pedwar prawf ar gyfer adeiladu ffyrdd. Fe wnaeth y cyn Ddirprwy Weinidog egluro y bydd y polisi “yn ystyriaeth berthnasol pe bai unrhyw anghydfod cynllunio”.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb yn yr un ffordd i’r ddwy ddeiseb.
Mewn llythyrau at y Cadeirydd dyddiedig 10 Ebrill ac 11 Ebrill, dywed Ken Skates AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth, fod “Gweinidogion Cymru wedi bod yn glir bod y penderfyniad ynghylch Ffordd Liniaru'r M4 wedi'i wneud”.
Mae’n mynd ymlaen i dynnu sylw at y gwaith sy’n mynd rhagddo i roi argymhellion Comisiwn Burns ar waith.
Hefyd, mewn cyfweliad â’r cyfryngau yn ddiweddar, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ei fod yn methu gweld sut y byddai’r ffordd yn cael ei hadeiladu oherwydd costau anferthol.
Mae’r mater wedi bod yn destun dadl droeon yn y Senedd, yn enwedig ar adeg gwneud y penderfyniad.
Hefyd, mae'r Pwyllgor Deisebau wedi ystyried deisebau amrywiol ynghylch y ffordd cyn i'r penderfyniad gael ei wneud, gan gynnwys un yn cefnogi'r llwybr a ffefrir ac un yn galw am ddileu'r cynllun i warchod Gwastatir Gwent.
Yn fwyaf diweddar, pan ofynnwyd iddo am y ffordd yn ystod y Cyfarfod Llawn (yn ei swydd flaenorol fel Gweinidog yr Economi), dywedodd Vaughan Gething AS, y Prif Weinidog bellach, mai “y gwir amdani yw nad yw'r adnoddau ar gael”.
|
Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol. |